Big Experiment / Arbrawf Mawr 2017

Big Experiment / Arbrawf Mawr 2017

Friday September 1st – Sunday September 3rd 2017 – Doors open at 6:00pm
Canolfan Halliwell Centre

GWYBODAETH DDEFNYDDIOL


AMSERLEN
Mae’r amserlen ar dudalen BEAM ar wefan trac nawr, yma https://trac.cymru/ein-gwaith/cymryd-rhan/yr-arbrawf-mawr/

Bydd mwy o wybodaeth ar y gweithdai prynhawn ar y wefan yn fuan iawn.

Cyrraedd yn y car?
Mae map Google ar y dudalen hon http://venuewales.co.uk/cy/find-us/

Mae map y campws a sut i ffeindio’r campws ar dudalen BEAM ar wefan trac.

Ydych chi’n dod o ardal gwynedd? Mae angen lift ar rywun – cysylltwch â fi am fanylion os gallwch helpu.

Cyfeiriad llawn y lleoliad: Canolfan Halliwell, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 3EP.

Mae nifer o feysydd parcio ar y safle (gweler y map). Byddwn ni’n cysgu yn un o adeiladau canolog Archesgob Noakes sy wedi’i farcio gyda 13 ar y map. Bydd derbynfa BEAM yno o 5.00 i 7.00 ac ar ôl hynny yn ffreutur/neuadd Myrddin, rhif 14 ar y map, ger y coed.

Dod ar y trên?
Os oes angen eich cyfarfod o’r trên, a wnewch chi rhoi gwybod i ni er mwyn i ni fod yn siwr bod pawb wedi cyrraedd yn ddiogel. Bydd cludiant yn eich disgwyl yng ngorsaf Caerfyrddin am 17.30 i gwrdd â’r trên 15.46 o Gaerdydd Canolog. Os ‘dych chi’n bwriadu cyrraedd ar drên gwahanol, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda.

Ar ddydd Sul bydd y trenau yn gadael am 16.55, 17.47 a 19.05. Byddwn yn trefnu cludiant i chi ond bydd rhaid i chi rhoi gwybod i ni pa drên ‘rydych yn bwriadu ei ddal.


Cofrestru: 5.00 – 7.00
Sylwch, os gwelwch yn dda, na fydd y dderbynfa yn agored tan 5.00yh. Byddai o help mawr i ni pe byddech yn trefnu cyrraedd rhwng 5.00 a 7.00yh.
PLIS PEIDIWCH CEISIO COFRESTRU CYN 5.00: NI FYDDWN YN BAROD AMDANOCH. Yn hytrach, ewch i gael cwpaned yng Nghaerfyrddin.
Erbyn 5.00 byddwn ni’n gwbl barod ac yn wên o glust i glust!

Bydd y dderbynfa yn ein adeilad preswyl, un o adeiladau canolog Archesgob Noakes sy wedi’i farcio gyda 13 ar y map, o 5.00 i 7.00 ac ar ôl hynny yn ffreutur Myrddin, un o’r adeiladu sy’ wedi’i farcio gydag 14 ar y map. Mae’n edrych dros y teras.

Swper nos Wener
Bydd swper plaen wedi’i baratoi ar eich cyfer ar y nos Wener rhwng 6.00 a 7.00yh. Os ‘rydych yn bwriadu cyrraedd ar ôl 7.00 neu ddim am fwyta swper, a wnewch chi rhoi gwybod i ni os gwelwch yn dda.


Beth sydd ei angen?
Dewch â theclyn recordio os y mynnoch, a pheidiwch ag anghofio’ch ‘sgidiau dawnsio os ‘dych chi’n bwriadu ymuno â’r twmpath neu’r dawnsio/clocsio.

Mae’r llety yn cynnwys ystafelloedd gwely/astudio sengl en-suite (ac ambell i ystafell ddwbl) wedi’u trefnu ar ffurf fflatiau o 8 ystafell gyda chegin a lolfa. Bydd dillad gwely a thywelion a phethau ymolchi sylfaenol yn cael eu darparu (safon tebyg i Travelodge). Mae allwedd i bob ystafell unigol ac mae cerdyn allwedd ar gyfer pob fflat.

Mae cegin yn cynnwys tegell, mygiau ayyb ymhob fflat. Bydd y Ganolfan yn darparu te, coffi parod a llaeth. Os ‘dych chi’n rhedeg allan, gofynnwch wrth Blanche neu un o’r tîm. Os ‘dych chi’n hoffi  te llysieuol, coffi go-iawn, decaff ayyb, dewch â nhw gyda chi os gwelwch yn dda.


Siop
Fel yn y gorffennol, bydd siop yn cynnig dewis ardderchog o CDau a llyfrau cerdd. Os ‘dych chi’n berfformiwr ac mae gennych CDau i’w gwerthu, mae croeso i chi ddod â nhw gyda chi. Dyma gyfle i chi i brynu anrhegion Nadolig anodd-dod-o-hyd-iddynt mewn digon o bryd, tra’n cefnogi’r gymuned gerddoriaeth draddodiadol Gymreig! Byddwn yn gallu derbyn arian parod neu siec, ond ddim plastig.


Sesiynau gyda’r hwyr – alawon a chaneuon
Bydd y mwyafrif o ddigwyddiadau’r nos yn cael eu cynnal yn neuadd Myrddin sydd â bar, ac Ystafell Cothi sy’n uwchben.

Byddwn yn neilltuo un o’r ystafelloedd am sesiynau ‘araf a phwyllog’ ar gyfer pobl nad ydynt yn gyfarwydd â’r repertoire, pobl sydd am ymarfer ar ail offeryn neu’r rhai sydd yn ddi-hyder. Bydd Gary Northeast yn helpu gyda’r sesiynau hyn.

Serch hynny, ‘rydym yn annog pawb i ymuno â’r ‘prif sesiynau’ lle bo hynny’n bosibl, er mwyn iddynt ddysgu, ennyn hyder a chael eu hysbrydoli. Mae croeso i glocswyr a dawnswyr i ymuno hefyd.

Mae croesi i gantorion ganu yn y brif sesiwn, neu bydd ystafell iddynt i ddechrau sesiwn ganu os y mynnon nhw.


Cerddoriaeth a chaneuon Cymreig ar-lein.
Mae gwefan trac yn cynnig ystod o adnoddau – caneuon ac alawon. Efallai y byddai’n syniad pe byddech yn edrych ar rhain cyn i chi ddod i’r penwythnos. Ewch i https://adnoddau.trac.cymru/alawon-chaneuon-dysgu/ am fideos, ffeiliau sain a dolenni i ragor, yn cynnwys blog Arfon ‘Cân Werin Yr Wythnos’.

Mae Arfon yn dweud i’r rhai sy’n dod i’r gwersi Canu Gwerin:
1. Meddwl am eich hoff gan werin
2. Nodi y byddaf yn dod a fy 'llyfrgell' cerddoriaeth traddodiadol gyda mi i roi syniad i bawb ble mae cael y caneuon ac er mwyn chwilio i gefndir.

Fel arfer nid yw tiwtoriaid BEAM yn awyddus i gyhoeddi deunydd dysgu cyn dechrau’r cwrs. Bydd popeth yn dod yn glir wedi i chi gyrraedd, felly peidiwch teimlo nad ydych wedi paratoi’n ddigonol.


Lledaenwch y neges

Os ‘dych chi’n Trydar, yr hashtag yw #arbrawf2017

Bydd WiFi ar gael.

Rhannwch y wybodaeth yma gyda’ch ffrindiau – mae 75 o bobl wedi bwcio hyd yn hyn, ond mae dal lle i ragor o bobl, ac mae gweithdai’r prynhawn, cyngerdd Calan a’r twmpath yn agored i’r cyhoedd. Does dim llawer o blant 7-10 eto, er fod grwp arbennig iddyn nhw, felly os gennych chi ffrindiau gyda phlant o’r oedran hwn, dwedwch mae croeso cynnes iddyn nhw.
Mae disgownt os oes 6 neu mwy mewn grwp – teulu, ffrindiau, sesiwn, grwp dysgwyr ayyb - a gallen nhw rannu fflat gyda’u gilydd.


Welwn ni chi yn fuan!

Blanche
trac@trac-cymru.org
01446 748556 Swyddfa (ond dim ond rai ddiwrnodau)
07791956461 – rhif gwell

22.9.2017




See other events organized by trac: Music Traditions Wales / Traddodiadau Cerdd Cymru Book Now
Event booking system powered by Bookitbee.com

© 2024 LIVE IT Group Ltd, Registered in England & Wales, number 08432364 at 7 Bell Yard, London WC2A 2JR
LIVE IT is a technology partner providing ticket fulfilment services and is not an agent for this event or affiliated with its organizers in any way.